Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 3 Hydref 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 11:55 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies (Cadeirydd) Peter Black Christine Chapman Paul Davies Mike Hedges Ann Jones Julie Morgan |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Angela Burns, Comisiynydd Nicola Callow, Pennaeth Cyllid Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Susan Hudson, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu David Meaden, PSOW Peter Tyndall, Public Services Ombudsman for Wales |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Gareth Price (Clerc) Meriel Singleton (Ail Clerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Eleanor Roy (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Simon Thomas. Nid oedd neb yn dirprwyo ar ei ran.
2 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15
2.1 Roedd Peter Black AC yn absennol ar gyfer yr eitem hon gan ei fod yn aelod o Gomisiwn y Cynulliad.
2.2 Holodd yr Aelodau y tystion a ganlyn am Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad: Angela Burns AC, Comisiynydd; Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad; a Nicola Callow, Pennaeth Cyllid.
2.3 Gofynnodd y Pwyllgor i Angela Burns AC ddarparu gwybodaeth bellach ar y ffigurau ar gyfer buddsoddi mewn TGCh a'r meysydd y byddai'r arian hwn yn cael ei fuddsoddi ynddynt.
2.4 Gofynnodd y Pwyllgor i Angela Burns AC ddarparu nodyn ar nifer y ceisiadau gan ysgolion sydd am ymweld â'r Cynulliad sy'n cael eu gwrthod, gan gynnwys dadansoddiad daearyddol o'r wybodaeth hon.
3 Craffu ar amcangyfrif drafft Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
3.1 Holodd yr Aelodau y tystion a ganlyn am yr amcangyfrif drafft: Peter Tyndall, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; Susan Hudson, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu; a David Meaden, Cynghorwr Ariannol.
4 Papurau i’w nodi
4.1 Nodwyd y papurau.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Trafod y dystiolaeth a gafwyd
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-2015.
6.2 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar amcangyfrif drafft yr Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus.
6.3 Bydd y Pwyllgor yn trafod adroddiadau drafft ar y ddwy gyllideb yn ystod y cyfarfodydd dilynol.
7 Adroddiad Alldro Llywodraeth Cymru 2012-13: Trafod yr Adroddiad
7.1 Nododd yr Aelodau y papur.
8 Sesiwn friffio gychwynnol ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru
8.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gan Angela Scott, Cynghorwr Arbenigol.